Aseiniadau

Bydd aseiniadau ar gael ar y dudalen hon maes o law. Dylid cyflwyno ymgeisiau naill ai ar bapur, neu eu sganio fel un ffeil PDF trwy Blackboard.

Gellir dyfarnu pwyntiau bonws am sganiau sydd wedi'u cyfeirio'n gywir ac sy'n glir iawn, heb gynnwys bysedd ar hap, cysgodion, ac ati.

Aseiniad Pedwar – Dim dyddiad cyflwyno (dim byd i’w gyflwyno)

Files

Dim byd i’w gyflwyno ar gyfer hwn – byddwn yn trafod y cwestiynau yn y tiwtorial cyntaf.

Mae’r pynciau a aseswyd yn cynnwys:

  • C1: Llofruddiaeth (ahem, gwrthrychau'n oeri).

  • C2: Gwrthrychau'n disgyn.

  • C3: Dadfeiliad ymbelydrol.

  • C4,5: Twf poblogaeth.

  • C6: Cymysgu hylifau.

Aseiniad Tri – Aseiniad i'w gyflwyno trwy safle Blackboard MT11210 erbyn 17:00 ar ddydd Llun, 16eg o Fawrth 2026.

Files

Solutions

Mae’r pynciau a aseswyd yn cynnwys:

  • C1 a 2: HDCau trefn dau llinol gyda chyfernodau cyson

  • C3 a 4: HDCau trefn uwch byth!

Aseiniad Dau – Aseiniad i'w gyflwyno trwy safle Blackboard MT11210 erbyn 17:00 ar ddydd Llun, 2il o Fawrth 2026.

Files

Solutions

Mae’r pynciau a aseswyd yn cynnwys:

  • C1: Dewis dull ar gyfer datrys hafaliadau differol cyffredin trefn un.

  • C2: Hafaliadau differol cyffredin trefn un homogonaidd.

  • C3: Gostyngiad i ffurf homogenaidd.

  • C4: Datrys HDCau trefn un llinol gan ddefnydddio ffactor integru.

Aseiniad Un – Dim dyddiad cyflwyno (dim byd i’w gyflwyno)

Files

Solutions

Dim byd i’w gyflwyno ar gyfer hwn – byddwn yn trafod y cwestiynau yn y tiwtorial cyntaf.

Mae’r pynciau a aseswyd yn cynnwys:

  • C1: Hafaliadau differol union (h.y., ar ffurf \(\frac{\mathrm{d}y}{\mathrm{d}x} = f(x)\))

  • C2: Dosbarthiad

  • C3: Newidynnau gwahanadwy